2020 Rhif (Cy. )

amaethyddiaeth, Cymru

anifeiliaid, CYMRU

iechyd planhigion, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/196 (Cy. 15)) ac yn diwygio’n sylweddol Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu ac yn gorfodi Rheoliad (EU) 2017/625 (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1) ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir er mwyn sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (“Rheoliad yr UE”).

Mae gweithredu a gorfodi darpariaethau eraill Rheoliad yr UE sy’n ymwneud â bwyd a bwyd anifeiliaid yn destun Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3376 (Cy. 298)).

Bydd gweithredu a gorfodi darpariaethau sy’n ymwneud ag iechyd planhigion a mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion yn destun offeryn ar wahân.

Mae Rhan 2 yn darparu ar gyfer cynnal archwiliadau o reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn unol â Rheoliad yr UE.

Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV o Reoliad yr UE ac adennill treuliau.

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer gorfodi a chosbau.

Mae Rhan 5 yn ymdrin â diwygiadau canlyniadol o ganlyniad i gymhwyso Rheoliad yr UE.

Mae Rhan 6 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â ffioedd iechyd planhigion o ganlyniad i gymhwyso Rheoliad yr UE a Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4).

Mae Rhan 7 yn dirymu Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/196 (Cy. 15)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 


 

2020 Rhif (Cy. )

amaethyddiaeth, Cymru

anifeiliaid, Cymru

iechyd planhigion, CYMRU

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

Gwnaed                                21 Ionawr 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       22 Ionawr 2020

Yn dod i rym                          31 Ionawr 2020

Cynnwys

RHAN 1

Cyffredinol

 

1.              Enwi, cymhwyso a chychwyn

2.              Dehongli

3.              Dynodiadau at ddibenion Erthygl 4

4.              Cyfnewid gwybodaeth

 

RHAN 2

Archwiliadau a rheolaethau swyddogol

 

5.              Pwerau archwilwyr

6.              Pwerau Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag archwiliadau o awdurdodau dynodedig

7.              Pwerau’r Asiantaeth sy’n cynnal archwiliadau ar ran Gweinidogion Cymru

 

RHAN 3

Cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV ac adennill treuliau

 

8.              Dyletswyddau awdurdodau dynodedig

9.              Hwyluso cymorth a chydweithrediad

10.            Adennill treuliau

 

RHAN 4

Gorfodi a chosbau

 

11.            Gorfodi ac erlyn

12.            Pwerau swyddogion gorfodi

13.            Pwerau mynediad

14.            Troseddau a chosbau

15.            Troseddau gan gyrff corfforedig

16.            Terfynau amser ar gyfer erlyniad

 

RHAN 5

Diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid, bwyd a masnach 

 

17.            Diwygio Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006

18.            Diwygio Rheoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006

19.            Diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006

20.            Diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006

21.            Diwygio Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2006

22.            Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

23.            Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

24.            Diwygio Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol (Cymru) 2013

25.            Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014                          

26.            Diwygio Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018

27.            Diwygio Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

28.            Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018

29.            Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

30.            Diwygio Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

 

 

RHAN 6

Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â ffioedd iechyd planhigion 

 

31.            Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Coedwigaeth) (Prydain Fawr) 2004

32.            Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006

33.            Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pacio Pren) (Coedwigaeth) 2006

34.            Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

35.            Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019

 

RHAN 7

Dirymu

 

36.            Dirymu

 

 

 

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd([2]), ac mewn perthynas â’r meysydd milfeddygol a  ffytoiechydol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd([3]).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a chyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer pwerau a roddir gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973([4]).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([5]), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

RHAN 1

Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Ionawr 2020. 

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “archwiliad” (“audit”) yw archwiliad o awdurdod cymwys a gynhelir at ddibenion Erthygl 6 mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol;

ystyr “archwilydd” (“auditor”) yw person sy’n cynnal archwiliad ar ran awdurdod cymwys;

ystyr “arolygydd” (“inspector”), mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol, yw arolygydd, arolygydd milfeddygol, neu swyddog arall a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod dynodedig arall i weithredu o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”), mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol, yr un ystyr ag sydd iddo yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

ystyr “awdurdod dynodedig” (“designated authority”) yw awdurdod sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “cynorthwyydd swyddogol” (“official auxiliary”) yw cynrychiolydd i Weinidogion Cymru sydd wedi ei hyfforddi’n briodol ac sy’n gweithredu o dan gyfrifoldeb neu oruchwyliaeth milfeddyg swyddogol i gyflawni rheolaethau swyddogol penodol neu dasgau penodol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau swyddogol eraill;

ystyr “deddfwriaeth berthnasol” (“relevant legislation”) yw deddfwriaeth Ewropeaidd a domestig sy’n llywodraethu’r meysydd a restrir yn is-baragraffau (a), (c), (d), (e) ac (f) o Erthygl 1(2), ac eithrio deddfwriaeth bwyd a diogelwch bwyd, bwyd anifeiliaid a diogelwch bwyd anifeiliaid i’r graddau—

(a)     y mae deddfwriaeth o’r fath wedi ei diffinio fel “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” neu “cyfraith bwyd berthnasol” yn y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd,

(b)     y mae deddfwriaeth o’r fath yn ymwneud â sylweddau y gall eu defnydd neu eu presenoldeb ar gnydau i gynhyrchu neu brosesu bwyd neu fwyd anifeiliaid arwain at weddillion o’r sylweddau hynny mewn bwyd neu mewn bwyd anifeiliaid, neu

(c)     y mae’n ymwneud ag ychwanegion bwyd anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid meddyginiaethol;

mae i “gweithgareddau swyddogol eraill” yr ystyr a roddir i “other official activities” gan Erthygl 2(2);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw gyfrwng cludo;

ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinarian”) yw milfeddyg sydd wedi ei benodi gan Weinidogion Cymru ac sydd wedi cymhwyso’n briodol i gynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill er mwyn gwirio cydymffurfedd â’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2);

ystyr “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yw’r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 2(1) ac eithrio’r rheini a restrir yn Erthygl 1(4);

ystyr “Rheoliad yr UE” (“the EU Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion([6]);

ystyr “y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd” (“the Feed and Food Regulations”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009([7]);

ystyr “Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” (“the EU Official Control Regulations”) yw Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau Gweithredu a’r Rheoliadau Dirprwyedig a wnaed oddi tanynt;

ystyr “swyddog gorfodi” (“enforcement officer”) yw swyddog sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod dynodedig i orfodi Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE a’r Rheoliadau hyn.

(2) Yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol” ym mharagraff (1)—

(a)     ystyr “bwydydd anifeiliaid meddyginiaethol” yw unrhyw gymysgedd o fwyd anifeiliaid a chynnyrch meddyginiaethol milfeddygol sydd â nodweddion ar gyfer trin neu atal afiechyd, adfer, cywiro neu addasu swyddogaethau ffisiolegol mewn anifeiliaid, neu gynhyrchion a bwyd anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid sydd wedi eu paratoi’n barod ar gyfer eu marchnata ac y bwriedir eu bwydo i anifeiliaid heb eu prosesu ymhellach, ac

(b)     ystyr “ychwanegion sootechnegol” yw ychwanegion bwyd anifeiliaid yn y categorïau a grybwyllir yn Erthygl 6.1(d) ac (e) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion ar gyfer eu defnyddio mewn maeth anifeiliaid([8]), ac eithrio’r rheini sy’n perthyn i’r grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw.

(3) Oni ddarperir fel arall yn y rheoliad hwn, mae i dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyron ag sydd i’r termau Saesneg cyfatebol yn Rheoliad yr UE.

(4) Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “Erthygl” neu “Teitl” yn gyfeiriad at Erthygl neu Deitl yn Rheoliad yr UE.

Dynodiadau at ddibenion Erthygl 4

3.(1)(1) Mae’r Asiantaeth wedi ei dynodi fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4 mewn perthynas â gofynion lles anifeiliaid, i’r graddau ei bod wedi ei dynodi i fod yr awdurdod cymwys a grybwyllir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014([9]).

(2) Mewn unrhyw achos arall mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi i fod yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4 mewn perthynas â meysydd a lywodraethir gan y ddeddfwriaeth berthnasol. 

(3) Mae awdurdodau lleol ac awdurdodau bwyd lleol (gan gynnwys unrhyw rai sy’n awdurdodau gorfodi o dan unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol) yn awdurdodau dynodedig mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y maent yn eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

(4) Rhaid i unrhyw awdurdod dynodedig lunio cofnodion ysgrifenedig (ar bapur neu ar ffurf electronig) o reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir ganddynt, a rhaid i gofnodion o’r fath gynnwys—

(a)     disgrifiad o ddiben y rheolaethau swyddogol a’r gweithgareddau swyddogol eraill perthnasol,

(b)     y dulliau rheoli a gymhwyswyd,

(c)     y canlyniad, a

(d)     pan fo’n briodol, unrhyw gamau y mae’n ofynnol i’r awdurdod dynodedig eu cymryd.

(5) Pan fo unrhyw awdurdod dynodedig wedi nodi achos o fethu â chydymffurfio drwy gymhwyso rheolaethau swyddogol, rhaid iddo hysbysu gweithredwr y busnes yn brydlon am yr achos o fethu â chydymffurfio.

Cyfnewid gwybodaeth

4. Caiff Gweinidogion Cymru ac unrhyw awdurdodau dynodedig eraill ddatgelu gwybodaeth i’w gilydd ac i awdurdodau cymwys eraill yn y Deyrnas Unedig ac mewn Aelod-wladwriaethau eraill at ddibenion cymhwyso’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.

RHAN 2

Archwiliadau a rheolaethau swyddogol

Pwerau archwilwyr

5.(1)(1) Caiff archwilydd arfer y pwerau yn y rheoliad hwn a chynnal archwiliad yn unol â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE os caiff ei awdurdodi i wneud hynny—

(a)      mewn perthynas â chynnal archwiliad o weithgareddau awdurdod dynodedig, gan yr awdurdod dynodedig, neu

(b)     mewn perthynas â chynnal archwiliad yn unol â rheoliad 6(2), gan Weinidogion Cymru.

(2) At ddibenion cynnal archwiliad, caiff archwilydd fynd i fangre y mae gan arolygydd bŵer i fynd iddi o dan ddeddfwriaeth berthnasol (“mangre sy’n destun archwiliad”) fel pe bai’r archwilydd yn arolygydd sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer mynd iddi o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno.

(3) Caiff unrhyw berson y mae ei gymorth yn rhesymol ofynnol gan yr archwilydd fynd gydag archwilydd sy’n arfer pwer i fynd i fangre.

(4) Caiff archwilydd ofyn i unrhyw berson mewn unrhyw fangre sy’n destun archwiliad am unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol at ddibenion yr archwiliad, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion sy’n rhesymol ofynnol at y dibenion hynny.

(5) Caiff archwilydd wneud copïau o gofnodion o’r fath neu wneud copïau ohonynt yn ofynnol.

(6) Wrth arfer y pwerau a roddir gan y rheoliad hwn, rhaid i archwilydd, pan ofynnir iddo, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad o dan y Rheoliadau hyn.

(7) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo archwilydd yn cynnal archwiliad yn unol â rheoliad 7 ar ran yr Asiantaeth.

Pwerau Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag archwiliadau o awdurdodau dynodedig

6.(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais ysgrifenedig i awdurdod dynodedig ddarparu gwybodaeth erbyn dyddiad penodedig ynglŷn ag unrhyw archwiliadau y mae wedi eu cynnal neu wedi bod yn destun iddynt neu y mae ganddo gynlluniau i’w cynnal neu i fod yn destun iddynt.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i archwilydd gynnal archwiliad o awdurdod dynodedig.

(3) Rhaid i’r awdurdod dynodedig ddarparu unrhyw gymorth i’r archwilydd hwnnw sy’n rhesymol ofynnol er mwyn i’r archwilydd gynnal yr archwiliad yn effeithiol.

Pwerau’r Asiantaeth sy’n cynnal archwiliadau ar ran Gweinidogion Cymru

7.(1)(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn trefnu bod yr Asiantaeth yn cynnal archwiliad, mae darpariaethau archwilio’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd yn gymwys fel pe bai—

(a)     cynnal yr archwiliad yn ddiben y cyfeirir ato yn rheoliadau 8(1) a 9(1) o’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, a

(b)     yr awdurdod cymwys o dan sylw yn awdurdod gorfodi y mae rheoliadau 8 a 9 o’r Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn gymwys iddo.

(2) At ddibenion paragraff (1), darpariaethau archwilio’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd yw—

(a)     rheoliadau 8 a 9(1) i (8) a (10), fel y’u darllenir ar y cyd â rheoliad 10 o’r Rheoliadau hynny, a

(b)     rheoliad 11 o’r Rheoliadau hynny.

(3) Pan fo’r Asiantaeth yn cynnal archwiliad, mae rheoliadau 17(2), (4) a (5)(c), 18(2) i (9), 19 i 21, 45 i 47, 49 a 50 o’r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd yn gymwys fel pe bai’r archwiliad wedi ei gynnal o dan y Rheoliadau hynny a’i orfodi neu ei gynnal oddi tanynt gan yr Asiantaeth.

RHAN 3

Cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV ac adennill treuliau

Dyletswyddau awdurdodau dynodedig

8. Rhaid i awdurdod dynodedig hysbysu Gweinidogion Cymru os yw’n ystyried nad yw’n gallu cymryd camau sy’n ofynnol mewn unrhyw achos unigol o dan Deitl IV (cymorth gweinyddol a chydweithrediad) a rhaid iddo ddarparu unrhyw wybodaeth y gwneir cais rhesymol amdani i Weinidogion Cymru.

Hwyluso cymorth a chydweithrediad

9.(1)(1) At ddibenion cynorthwyo awdurdod cymwys o Aelod-wladwriaeth arall fel a ddarperir yn Erthygl 104, neu alluogi Gweinidogion Cymru neu awdurdod dynodedig i wneud hynny, caiff arolygydd sy’n arfer pwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i fangre neu i arolygu cofnodion—

(a)     mynd â swyddogion awdurdodedig awdurdod cymwys gwlad arall gydag ef,

(b)     dangos cofnodion i’r swyddogion awdurdodedig hynny sy’n mynd gydag ef, ac

(c)     gwneud copïau o’r cofnodion ar eu cyfer, neu ei gwneud yn ofynnol i gopïau o’r cofnodion gael eu gwneud ar eu cyfer.

(2) At ddibenion hwyluso ymweliad gan dîm arolygu fel a ddarperir yn Erthygl 108, caiff arolygydd fynd â chynrychiolwyr o Gomisiwn yr UE gydag ef wrth arfer pwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i fangre ac arolygu cofnodion.

(3) Caniateir ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu i swyddog gorfodi unrhyw gymorth, unrhyw wybodaeth neu unrhyw gyfleusterau sy’n rhesymol ofynnol gan y swyddog at ddiben gweithredu neu orfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.

Adennill treuliau

10.(1)(1) Caniateir codi unrhyw dreuliau y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod dynodedig yn mynd iddynt wrth gyflawni gweithgareddau gorfodi o dan y Rheoliadau hyn, neu fesurau o dan Erthygl 66, 67, 69 neu 138 ar y gweithredwr busnes perthnasol a rhaid talu’r treuliau hynny pan gyflwynir archiad ysgrifenedig amdanynt.

(2) Caniateir adennill unrhyw swm sy’n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw wedi ei dalu—

(a)     fel dyled sifil;

(b)     o dan orchymyn llys, yn unol ag unrhyw delerau y mae’r llys yn eu gorchymyn.

RHAN 4

Gorfodi a chosbau

Gorfodi ac erlyn

11.(1)(1) Cyfrifoldeb yr awdurdod cymwys neu awdurdod dynodedig yw gorfodi’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.

(2) Mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn unrhyw achos penodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y Rheoliadau hyn i’w gorfodi gan Weinidogion Cymru yn hytrach nag awdurdod lleol.

Pwerau swyddogion gorfodi

12.(1)(1) Caiff swyddog gorfodi— 

(a)     gwneud unrhyw ymholiadau, arsylwi unrhyw weithgaredd neu broses, a chymryd ffotograffau;

(b)     arolygu unrhyw eitem, cynhwysydd, cyfarpar, offer neu gofnodion o unrhyw ddosbarth yr ymddengys i’r swyddog gorfodi eu bod yn berthnasol at ddibenion yr ymchwiliad, a chaiff wneud copïau o unrhyw gofnodion neu ei gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu gwneud a mynd ag unrhyw gofnodion ymaith fel y bo’n rhesymol ofynnol;

(c)     marcio unrhyw eitem at ddibenion adnabod;

(d)     gwneud dangos unrhyw label, unrhyw ddogfen neu unrhyw gofnod (ar ba bynnag ffurf y caiff ei chadw neu ei gadw) yn ofynnol;

(e)     arolygu a gwneud copi o unrhyw label, unrhyw ddogfen neu unrhyw gofnod, neu wneud copi o ran ohoni neu ohono;

(f)      cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur, ac arolygu a gwirio’r data ar unrhyw gyfrifiadur, a’i weithrediad;

(g)     os oes gan y swyddog gorfodi reswm i gredu bod person yn torri’r Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE, ac y gallai’r data fod yn berthnasol i’r toriad, ymafael mewn unrhyw offer cyfrifiadurol a’i gadw at ddiben copïo’r data neu, os nad yw wedi bod yn bosibl cynnal arolygiad digonol yn y fangre, at ddiben ei arolygu ymhellach;

(h)     os oes gan y swyddog gorfodi reswm i gredu bod person yn torri’r Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE, ac y gallai cofnodion penodol fod yn berthnasol i’r toriad, ymafael yn y cofnodion a’u cadw.

(2) Rhaid i swyddog gorfodi—

(a)     dangos tystiolaeth o awdurdodiad pan ofynnir iddo wneud hynny;

(b)     cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl—

                            (i)    darparu i’r person yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw gofnodion yr eir â hwy ymaith o unrhyw fangre dderbyneb ysgrifenedig sy’n nodi’r cofnodion hynny, a

                          (ii)    ar ôl penderfynu nad oes eu hangen mwyach, dychwelyd unrhyw beth yr eir ag ef ymaith, ar wahân i gofnodion neu bethau eraill sydd i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys.

Pwerau mynediad

13.(1)(1) Caiff swyddog gorfodi fynd i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat) yn ystod oriau gwaith arferol heb roi hysbysiad ymlaen llaw, os yw’r swyddog yn credu bod hynny’n angenrheidiol at ddiben rheolaethau swyddogol neu weithgareddau swyddogol eraill o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.

(2) Mewn amgylchiadau pan fo swyddog gorfodi yn cynnal gwiriadau dilysu arferol, rhaid darparu hysbysiad cyn arfer pŵer i fynd i fangre yn ystod oriau gwaith arferol.

(3) Nid yw’r gofyniad i roi hysbysiad ym mharagraff (2) yn gymwys—

(a)     pan fo ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu,

(b)     pan fo’r swyddog gorfodi yn credu’n rhesymol y byddai rhoi hysbysiad yn mynd yn groes i fwriad mynd i’r fangre, gan gynnwys unrhyw sefyllfa nad yw hysbysiad yn ofynnol ynddi o dan Erthygl 9(4), neu

(c)     pan fo gan y swyddog gorfodi amheuaeth resymol bod unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE wedi ei thorri.

(4) Rhaid i swyddog gorfodi ddangos dogfen awdurdodi sydd wedi ei dilysu’n briodol, os gofynnir iddo wneud hynny.

(5) Caiff ynad heddwch lofnodi gwarant i ganiatáu i swyddog gorfodi fynd i unrhyw fangre, gan gynnwys tŷ annedd, a hynny gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)     bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE, a

(b)     y bodlonir neu ragor o’r amodau ym mharagraff (6).

(6) Yr amodau yw—

(a)     bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

(b)     y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre;

(c)     bod angen mynd i’r fangre ar fyrder;

(d)     bod y fangre heb ei meddiannu neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(7) Mae gwarant yn ddilys am 30 o ddiwrnodau o ddyddiad ei llofnodi.

(8) Rhaid i swyddog gorfodi sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu y mae’r meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.

(9) Caiff swyddog gorfodi— 

(a)     mynd ag unrhyw bersonau eraill, hyd at uchafswm o dri, y mae’r swyddog gorfodi yn ystyried eu bod yn angenrheidiol, gydag ef;

(b)     dod ag unrhyw gyfarpar i’r fangre y mae’r swyddog gorfodi yn ystyried ei fod yn angenrheidiol.

Troseddau a chosbau

14.(1)(1) Mae person yn euog o drosedd os yw’r person hwnnw, heb esgus rhesymol, yn rhwystro neu’n peri neu’n caniatáu rhwystro—

(a)     archwilydd,

(b)     arolygydd,

(c)     unrhyw berson sy’n mynd gydag archwilydd perthnasol neu arolygydd perthnasol, neu

(d)     swyddog gorfodi.

(2) At ddibenion paragraff (1), mae rhwystro yn cynnwys methiant gan unrhyw berson—

(a)     i ddangos cofnodion neu ddarparu cyfleusterau rhesymol ar gyfer copïo cofnodion, neu

(b)     i ddarparu gwybodaeth berthnasol pan ofynnir iddo wneud hynny.

(3) Mae person yn euog o drosedd os yw’r person hwnnw, heb esgus rhesymol, yn darparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol o ran unrhyw fanylyn perthnasol.

(4) Mae person sy’n euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy o unrhyw swm.

Troseddau gan gyrff corfforedig

15.(1)(1) Os bydd corff corfforedig yn cyflawni trosedd o dan reoliad 14, ac os dangosir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu ei bod i’w phriodoli i esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw, mae’r swyddog hwnnw yn ogystal â’r corff corfforedig yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2) Os yw materion busnes corff corfforedig yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â’i swyddogaethau rheoli, fel pe bai’r person hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.

(3) Ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni ei fod yn gweithredu fel unrhyw un o’r rhain.

Terfynau amser ar gyfer erlyniad

16. Caiff erlyniad am drosedd o dan y Rhan hon gychwyn yn ddim hwyrach na’r cynharaf o’r adeg y daw’r canlynol i ben—

(a)     tair blynedd o adeg cyflawni’r drosedd, neu

(b)     blwyddyn o adeg ei darganfod gan yr awdurdod erlyn.

RHAN 5

Diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid, bwyd a masnach  

Diwygio Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006

17. Yn erthygl 3(1) o Orchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006([10]), yn y diffiniad o “health marked”, yn lle’r geiriau o “required by” hyd at y diwedd, rhodder “as defined in Article 3(51) of Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products([11])”.

Diwygio Rheoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006

18. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006([12]), yn lle’r diffiniad o “yn dwyn marc iechyd” rhodder—

ystyr “yn dwyn marc iechyd” (“health marked”) yw yn dwyn y marc iechyd fel y diffinnir “health mark” yn Erthygl 3(51) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion([13]);.

Diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006

19. Yn erthygl 11(2)(b)(ii) o Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006([14]), yn lle’r geiriau “Chapter VIII” hyd at y diwedd, rhodder “Article 18 of Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of feed and food law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products([15])”.

Diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006

20. Yn Atodlen 1 i Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006([16]), yn Rhan 3, ym mharagraff 9(2)(a), yn lle’r geiriau “Sections I, II and III, and Chapters V” hyd at y diwedd, rhodder “Article 18 of Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products([17])”.

Diwygio Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007

21. Yn erthygl 20(2) o Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007([18]), hepgorer is-baragraff (g).

Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

22.(1)(1) Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007([19]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 5A—

(a)     ym mharagraff 1—

                            (i)    yn y diffiniad o “milfeddyg swyddogol”, yn lle “Rheoliad 854/2004” rhodder “Rheoliad (EU) 2017/625”,

                          (ii)    hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 854/2004”, a

                        (iii)    ar y diwedd mewnosoder—

ystyr “Rheoliad (EU) 2017/625” (“Regulation (EU) 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion([20]).;

(b)     ym mharagraff 15(1), yn lle “Reoliad 854/2004” rhodder “Reoliad (EU) 2017/625”.

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

23.(1)(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011([21]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2—

(a)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    yn lle’r diffiniad o “deunydd genetig” rhodder—

ystyr “deunydd genetig” (“genetic material”) yw unrhyw gynnyrch cenhedlol sy’n cynnwys semen, öosytau ac embryonau a fwriedir ar gyfer atgenhedlu artiffisial ac wyau deor;,

                          (ii)    yn lle’r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw—

(a)   unrhyw gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, cynnyrch cenhedlol, sgil-gynnyrch anifeiliaid, cynnyrch deilliedig neu wair neu wellt sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, a

(b)   unrhyw gynnyrch cyfansawdd a restrir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275([22]) ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn arolygfeydd ffin;, a

                        (iii)    yn y lle priodol mewnosoder—

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, cerbyd, ôl-gerbyd, cynhwysydd, stondin, strwythur symudol, llong neu awyren;;

ystyr “mewnforiwr” (“importer”) yw’r person naturiol neu gyfreithiol sy’n cyflwyno anifeiliaid neu gynhyrchion i’w mewnforio o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig;;

ystyr “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yw gweithgareddau a gyflawnir yn unol ag Erthygl 2(1) o Reoliad yr UE;;

ystyr “rheolaethau swyddogol dwysach” (“intensified official controls”) yw’r rheolaethau hynny a gynhelir yn unol ag Erthygl 65(4) o Reoliad yr UE;;

mae “tystysgrif iechyd” (“health certificate”) yn y Rheoliadau hyn yn cynnwys yr hyn sy’n cyfateb i dystysgrif iechyd ar ffurf electronig.;

(b)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Yn y Rheoliadau hyn,—

(a)      mae “Rheoliad yr UE” (“the EU Regulation”) yn gyfeiriad at Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion([23]);

(b)      mae “Rheoliad (EU) Rhif 2016/1012” (“Regulation (EU) No. 2016/1012”) yn gyfeiriad at Reoliad (EU) Rhif 2016/1012 ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio a masnachu anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol, a dod â hwy i’r Undeb([24]);

(c)   mae unrhyw gyfeiriad at “arolygfa ffin” (“border inspection post”) i’w ddarllen fel cyfeiriad at “safle rheoli ar y ffin” (“border control post”) fel y’i diffinnir yn rheoliad 11; ac

(ch) mae unrhyw gyfeiriad at “DMMG” (“CVED”) i’w ddarllen fel cyfeiriad at “DMIG” (“CHED”) fel y’i diffinnir yn rheoliad 10.

(3) Yn lle rheoliad 3 rhodder—

Eithriad ar gyfer anifeiliaid anwes

3.—(1) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag anifeiliaid anwes pan fo—

(a)   y symud yn symud anfasnachol, a

(b)   yn achos cathod, cŵn a ffuredau—

                       (i)  yr anifail anwes yn mynd gyda’r perchennog neu’r person awdurdodedig, neu

                      (ii)  pan fo mwy na phum anifail anwes yn mynd gyda’r perchennog neu’r person awdurdodedig, yr amodau a nodir yn Erthygl 5(2) o’r Rheoliad Anifeiliaid Anwes wedi eu bodloni.

(2) Yn y rheoliad hwn—

mae i “anifail anwes” yr un ystyr ag a roddir i “pet animal” yn Erthygl 4(11) o Reoliad (EU) 2016/429 ar glefydau trosglwyddadwy anifeiliaid([25]);

mae i “mynd gyda” yr un ystyr ag a roddir i “accompanying” yn y Rheoliad Anifeiliaid Anwes;

mae i “person awdurdodedig”, “symud anfasnachol” a “perchennog” yr ystyron a roddir i “authorised person”, “non-commercial movement” ac “owner” gan Erthygl 3 o’r Rheoliad Anifeiliaid Anwes;

ystyr “y Rheoliad Anifeiliaid Anwes” (“the Pets Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 576/2013([26]) Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anfasnachol anifeiliaid anwes ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 998/2003.

(4) Yn rheoliad 4, yn lle “masnach â” rhodder “masnach ag Ynysoedd Faröe, Kalaallit Nunaat (Greenland),”.

(5) Yn rheoliad 5—

(a)     yn lle’r pennawd rhodder—

Symud anifeiliaid neu ddeunydd genetig i Aelod-wladwriaethau neu ohonynt;

(b)     yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaniateir anfon unrhyw anifail na deunydd genetig i Aelod-wladwriaeth, na dod ag ef o Aelod-wladwriaeth, oni bai bod tystysgrif iechyd wreiddiol yn dod gydag ef.

(1A) Ni chaniateir anfon unrhyw gynnyrch anifeiliaid i Aelod-wladwriaeth, na dod ag ef o Aelod-wladwriaeth, oni bai bod dogfen berthnasol yn dod gydag ef. 

(6) Yn rheoliad 6(1), yn lle “neu ddeunydd genetig i Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “, cynnyrch anifeiliaid neu ddeunydd genetig i Aelod-wladwriaeth”.

(7) Yn rheoliad 7—

(a)     yn lle’r pennawd rhodder—

Hysbysiad o symud anifeiliaid a deunydd genetig i Aelod-wladwriaethau ac ohonynt;

(b)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    hepgorer “arall”, a

                          (ii)    yn lle’r geiriau o “24 awr” hyd at y diwedd, rhodder “un diwrnod gwaith cyn yr amser y disgwylir i’r llwyth gyrraedd”;

(c)     ym mharagraff (2), hepgorer y gair “arall”.

(8) Yn rheoliad 9, yn lle’r geiriau o “a bennir” hyd at y diwedd, rhodder “sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin i mewn i Gymru o wlad sydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd”.

(9) Yn lle rheoliad 10, a phennawd y rheoliad hwnnw, rhodder—

Ystyr Dogfen Mynediad Iechyd Gyffredin “DMIG” a’r defnydd ohoni

10.—(1) Ystyr “Dogfen Mynediad Iechyd Gyffredin” (“DMIG”) (“Common Health Entry Document” (“CHED”)) yw dogfen, neu’r hyn sy’n cyfateb i ddogfen ar ffurf electronig, ar y ffurf a bennir yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1715 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithrediad y system rheoli gwybodaeth ar gyfer rheolaethau swyddogol a’i chydrannau system([27]).

(2) Pan fo’n ofynnol i DMIG ddod gyda llwyth a fewnforir i’r fangre sy’n gyrchfan derfynol, rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth lenwi’r darnau perthnasol o’r ddogfen cyn i’r llwyth gyrraedd yn ffisegol.

(3) Pennir yr achosion pan fo’n ofynnol defnyddio DMIG, a’r amodau ar gyfer gwneud hynny, yn Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Mynediad Iechyd Gyffredin sy’n dod gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan([28]).

(4) Pan fo DMIG yn ofynnol, rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gydymffurfio â darpariaethau Erthygl 56 o Reoliad yr UE.

(5) Mae’r hyn sy’n cyfateb i ddogfen ar ffurf electronig yn cyfeirio at DMIG y gall y person sy’n gyfrifol am y llwyth ei ddangos ar unrhyw adeg.”

(10) Yn lle rheoliad 11, a phennawd y rheoliad hwnnw, rhodder—

Safleoedd rheoli ar y ffin

11.—(1) Safle rheoli ar y ffin yw lle, ynghyd â’r cyfleusterau a gynhwysir yn y lle hwnnw, sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn unol ag Erthygl 59 o Reoliad yr UE ac a restrir gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 60 o Reoliad yr UE ar gyfer cyflawni’r rheolaethau swyddogol a nodir yn Erthygl 47(1) o Reoliad yr UE.

(2) Os bydd yr awdurdod perthnasol o’r farn, ar unrhyw adeg, nad yw unrhyw ran o’r cyfleusterau arolygu yn y safle rheoli ar y ffin yn cydymffurfio bellach â’r gofynion ar gyfer cymeradwyo, caiff yr awdurdod perthnasol, yn unol ag Erthyglau 61 i 63 o Reoliad yr UE, gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sydd yn—

(a)   pennu’r modd y torrwyd y gofynion;

(b)   darparu terfyn amser o fewn pryd y mae rhaid cydymffurfio â’r amodau; ac

(c)   gwahardd defnyddio’r rhan honno o’r cyfleusterau hyd nes y cydymffurfir â’r amodau cymeradwyo.

(3) Os na chydymffurfir â’r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro y gymeradwyaeth mewn perthynas â’r rhan honno o’r cyfleusterau arolygu.

(4) Os yw’r awdurdod perthnasol yn penderfynu bod gweithredwr safle rheoli ar y ffin yn torri yn ddifrifol y gofynion perfformiad mewn perthynas â rheolaethau swyddogol ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r categorïau o anifail neu gynnyrch y mae wedi ei ddynodi ar eu cyfer, neu amodau’r gymeradwyaeth, neu os yw’r modd y mae safle rheoli ar y ffin yn gweithredu yn creu risg i iechyd pobl neu anifeiliaid neu les anifeiliaid, rhaid i Weinidogion Cymru atal dros dro y gymeradwyaeth ar gyfer y safle rheoli ar y ffin a gorchymyn bod ei weithgareddau yn dod i ben ar gyfer pob categori, neu gategorïau penodedig, o anifail neu gynnyrch, a rhaid iddo hysbysu’r Comisiwn am yr ataliad dros dro a’r rheswm drosto.

(5) Ym mharagraff (2), ystyr “yr awdurdod perthnasol” (“the relevant authority”) yw—

(a)   mewn perthynas ag anifeiliaid, Gweinidogion Cymru; neu

(b)   mewn perthynas â chynhyrchion, yr awdurdod lleol.

(11) Yn rheoliad 12, yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Os yw’r gymeradwyaeth ar gyfer y safle rheoli ar y ffin yn caniatáu mewnforio unrhyw gynhyrchion pysgodfeydd, infertebratau dyfrol, molysgiaid dwygragennog byw, ecinodermiaid byw, tiwnigogion byw a gastropodau morol byw a fwriedir i’w bwyta gan bobl, caiff yr awdurdod lleol benodi swyddogion iechyd yr amgylchedd sydd wedi eu hyfforddi’n addas neu bersonau eraill sydd wedi eu hyfforddi’n briodol i gyflawni rheolaethau swyddogol neu dasgau penodol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau swyddogol eraill, i fod yn arolygwyr pysgod swyddogol ar gyfer y safle hwnnw mewn perthynas â chynhyrchion o’r fath, a bydd gan unrhyw arolygwr pysgod swyddogol o’r fath yr holl bwerau sydd gan filfeddyg swyddogol mewn perthynas â’r cynhyrchion hynny.

(12) Mae rheoliad 14 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am lwyth o anifeiliaid neu gynhyrchion hysbysu’r safle rheoli ar y ffin sy’n gyrchfan am y dyddiad y disgwylir iddo gyrraedd y safle rheoli ar y ffin o leiaf un diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddo gyrraedd; ond pan fo’r person yn gallu darparu tystiolaeth o gyfyngiad logistaidd sy’n atal hysbysiad o’r fath, caniateir bodloni’r gofyniad hwnnw drwy hysbysu am yr amser y disgwylir iddo gyrraedd o leiaf bedair awr ymlaen llaw.;

(b)     hepgorer paragraff (2);

(c)     yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Yn achos trawslwytho cynhyrchion o un safle rheoli ar y ffin i un arall, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y llwyth hysbysu’r milfeddyg swyddogol yn y safle rheoli ar y ffin sy’n gyrchfan am—

(a)   amcangyfrif o’r amser y bydd y llwyth yn cyrraedd;

(b)   y safle rheoli ar y ffin lle y bydd y trawslwythiad yn cael ei wirio;

(c)   beth yw’r llwyth a’i leoliad; ac

(ch) amcangyfrif o’r amser gadael.

(13) Yn lle rheoliad 15 rhodder—

15.—(1) Pan fo llwyth wedi ei ddadlwytho, rhaid i’r person sy’n gyfrifol amdano, cyn gynted ag y bo’n rhesymol, drefnu iddo, yn ogystal â’r ddogfennaeth a bennir ar gyfer y llwyth hwnnw yn y ddeddfwriaeth berthnasol a restrir yn Atodlen 1, gael ei gyflwyno yng nghyfleusterau arolygu y safle rheoli ar y ffin er mwyn galluogi rheolaethau swyddogol yn unol ag—

(a)   Pennod 5 o Reoliad yr UE, ynghyd â’r actau gweithredu a’r actau dirprwyedig perthnasol; a

(b)   y gwiriadau sy’n ofynnol gan Erthygl 37(1) o Reoliad (EU) 2016/1012.

(2) Rhaid i unrhyw weithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth sicrhau bod y llwyth yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol yn y safle rheoli ar y ffin ar adeg resymol yn ystod y diwrnod gwaith.

(3) Rhaid i’r awdurdod cymwys gynnal yr holl reolaethau swyddogol angenrheidiol a bennir ym mharagraff (1) ac ni chaiff ond dyroddi DMIG sy’n caniatáu mynediad—

(a)   os yw’r llwyth yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud ag ef yn yr offeryn perthnasol a restrir yn Atodlen 1;

(b)   os nad yw’r mewnforio wedi ei wahardd o dan baragraff (4); ac

(c)   os yw’r ffi gywir ar gyfer y gwiriadau wedi ei thalu neu’n mynd i gael ei thalu.

(4) Yn achos anifeiliaid byw, ni chaiff y milfeddyg swyddogol ddyroddi DMIG sy’n caniatáu mynediad—

(a)   os yw’r anifeiliaid yn dod o diriogaeth neu ran o diriogaeth trydedd wlad nad yw wedi ei chynnwys yn y rhestri a luniwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y rhywogaeth o dan sylw, neu os gwaherddir mewnforion ohonynt o dan y ddeddfwriaeth honno;

(b)   os yw’r anifeiliaid yn dioddef o glefyd heintus neu glefyd sy’n cyflwyno risg i iechyd pobl neu anifeiliaid neu os oes amheuaeth eu bod yn dioddef felly neu wedi eu heintio felly;

(c)   os nad yw’r drydedd wlad sy’n allforio wedi cydymffurfio â’r gofynion y darperir ar eu cyfer yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd;

(ch) os nad yw’r anifeiliaid mewn cyflwr priodol i barhau ar eu taith; neu

(d)   os nad yw’r dystysgrif filfeddygol neu’r ddogfen sy’n dod gyda’r anifeiliaid yn bodloni gofynion deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â mewnforio.

(5) Os nad oes unrhyw ofynion deddfwriaethol mewn perthynas â’r llwyth, ni chaiff y milfeddyg swyddogol ddyroddi DMIG oni bai bod y mewnforio wedi cael ei awdurdodi yn ysgrifenedig o dan y paragraff hwn gan—

(a)   yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer unrhyw gynnyrch y mae gofynion iechyd y cyhoedd yn unig yn gymwys iddynt; neu

(b)   Gweinidogion Cymru ar gyfer unrhyw gynnyrch arall.

(6) Ni chaniateir rhoi awdurdodiad o dan baragraff (5)(a) onid yw’r Asiantaeth wedi ei bodloni nad yw’r llwyth yn peri risg i iechyd pobl.

(7) Ni chaniateir rhoi awdurdodiad o dan baragraff (5)(b) onid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r llwyth yn peri risg i statws iechyd anifeiliaid y Deyrnas Unedig.

(8) Rhaid i’r milfeddyg swyddogol gadw tystiolaeth o awdurdodi neu wrthod llwyth am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad y mewnforio.

(14) Yn lle rheoliad 16, a phennawd y rheoliad hwnnw, rhodder—

Symud llwyth o’r safle rheoli ar y ffin

16.—(1) Ni chaiff unrhyw berson symud llwyth o’r safle rheoli ar y ffin oni bai bod DMIG a ddyroddwyd gan y milfeddyg swyddogol, neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol) yn achos llwyth o bysgod, yn dod gyda’r llwyth, a bod y symudiad yn unol â’r ddogfen honno.

(2) Rhaid i’r person sy’n ei gludo o’r safle rheoli ar y ffin sicrhau bod y ddogfen yn dod gyda’r llwyth a rhaid iddo ei gludo yn uniongyrchol i’r gyrchfan a bennir ynddi.

(3) Nid yw’r gofynion hyn yn gymwys os yw’r llwyth yn cael ei symud  o’r safle rheoli ar y ffin o dan awdurdod y milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod perthnasol (fel y bo’n briodol).

(4) Yn achos anifeiliaid byw, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am eu cludo i’r gyrchfan derfynol feddu ar yr awdurdodiad cludo priodol yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig([29]) y tu mewn i’r cerbyd.

(5) Yn y rheoliad hwn, mae gofynion bod “DMIG yn dod gyda’r llwyth”, mewn perthynas â DMIG ar ffurf electronig, yn cyfeirio at y ffaith y gall y person sy’n gyfrifol am y llwyth ddangos y DMIG ar unrhyw adeg.”

(15) Yn lle rheoliad 17, a phennawd y rheoliad hwnnw, rhodder—

Goruchwylio a monitro llwythi

17. Pan fo’n ofynnol i lwyth gael ei gymryd o dan oruchwyliaeth o safle rheoli ar y ffin i gyrchfan benodol yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth—

(a)   rhaid i’r symudiad fod o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau os pennir hynny yn y DMIG; a

(b)   pan fydd y llwyth yn cyrraedd, rhaid i feddiannydd y fangre sy’n gyrchfan hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith ei fod wedi cyrraedd.

(16) Yn rheoliad 18—

(a)     yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Caniateir i gynhyrchion sy’n cyrraedd safle rheoli ar y ffin sydd â chyrchfan derfynol y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ac sy’n ddarostyngedig i ofynion gwiriadau iechyd anifeiliaid yn y ddeddfwriaeth berthnasol a restrir yn Atodlen 1, gael eu cymryd yn uniongyrchol o’r safle rheoli ar y ffin i’r gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig heb DMIG, cyn belled nad yw’r cynhyrchion yn aros am fwy na thri diwrnod mewn safle rheoli ar y ffin sy’n faes awyr neu 30 o ddiwrnodau mewn safle rheoli ar y ffin sy’n borthladd.;

(b)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Caniateir i gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion gwiriadau mewnforio, ac sy’n cyrraedd safle rheoli ar y ffin ar gyfer cyrchfan derfynol y tu allan i’r Deyrnas Unedig, gael eu cymryd yn uniongyrchol o’r safle rheoli ar y ffin i’w cyrchfan heb DMIG, cyn belled nad yw’r cynhyrchion yn aros ar y safle rheoli ar y ffin am fwy na 90 o ddiwrnodau.

(17) Yn rheoliad 19, yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b) sy’n cael ei symud o safle rheoli ar y ffin heb DMIG neu heb awdurdod y milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (yn ôl y digwydd) yn y safle; neu

(c)   sy’n cael ei gludo o’r safle rheoli ar y ffin i gyrchfan wahanol i’r un a bennir yn y ddogfen mynediad.

(18) Yn lle rheoliad 20 rhodder—

20.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw lwyth o gynnyrch os yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin yn dangos nad yw’r llwyth yn cydymffurfio â’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2) o Reoliad yr UE.

(2) Rhaid i’r milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol), ar ôl ymgynghori â’r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr, osod y llwyth yng nghadw a gwrthod mynediad iddo i’r Deyrnas Unedig.

(3) Caiff y milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol) orchymyn y person sy’n gyfrifol am y llwyth i wneud y canlynol—

(a)   gwneud y llwyth yn destun triniaeth arbennig yn unol ag Erthygl 71(1) a (2) o Reoliad yr UE neu unrhyw fesur arall sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2) o Reoliad yr UE, a, phan fo hynny’n briodol ac ar yr amod nad oes unrhyw risg i iechyd pobl nac anifeiliaid, dyrannu’r llwyth at ddibenion gwahanol i’r rhai y’i bwriadwyd ar eu cyfer yn wreiddiol;

(b)   pan fo amodau iechyd yn caniatáu hynny, ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am y llwyth ailanfon y cynnyrch yn unol ag Erthygl 72 o Reoliad yr UE o’r un safle rheoli ar y ffin i gyrchfan y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd y cytunwyd arni gyda’r person sy’n gyfrifol am y llwyth, gan ddefnyddio’r un cyfrwng cludo, o fewn terfyn amser o 60 niwrnod ar y mwyaf i gyrraedd y safle rheoli ar y ffin; neu

(c)   os yw’r person sy’n gyfrifol am y llwyth yn cytuno ar unwaith, bod ailanfon yn amhosibl neu fod y terfyn amser o 60 niwrnod wedi dod i ben, dinistrio’r cynhyrchion.

(4) Caiff y milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol), mewn achos eithriadol, awdurdodi cymryd camau dinistrio, ailanfon, triniaeth arbennig, neu unrhyw fesur arall y caniateir ei gymryd mewn cysylltiad â llwyth, mewn cysylltiad â rhan o’r llwyth yn unig, ar yr amod—

(a)   bod y camau a gymerir yn sicrhau cydymffurfedd;

(b)   nad yw’r camau a gymerir yn peri risg i iechyd pobl nac anifeiliaid; ac

(c)   nad yw’r camau a gymerir yn tarfu ar weithrediadau rheolaethau swyddogol.

(5) Pan fo’r person sy’n gyfrifol am y llwyth yn aros am ailanfon neu’n aros am gadarnhad o’r rhesymau dros wrthod y llwyth, rhaid iddo, ar draul y person hwnnw ei hun, storio’r llwyth o dan oruchwyliaeth yr awdurdod gorfodi.

(6) Os ymafaelir mewn llwyth o gynhyrchion y tu allan i safle rheoli ar y ffin o dan reoliad 19, rhaid i’r awdurdod gorfodi orchymyn bod y llwyth hwnnw yn cael ei gadw neu ei alw yn ôl, a’i osod yng nghadw yn swyddogol yn ddi-oed, ac mae paragraffau (2) a (3) o’r rheoliad hwn yn gymwys.

(7) Mae’r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr yn atebol am y costau yr eir iddynt mewn unrhyw fesurau a gymerir o dan baragraffau (2) i (6), ond mae ganddo’r hawl i daliad o swm sy’n cyfateb i werth y cynnyrch ar ôl didynnu’r costau hyn.

(8) Caiff y mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ar unwaith, ac o fewn un diwrnod gwaith ar ôl cael ei hysbysu am yr achos o fethu â chydymffurfio, ynghylch unrhyw benderfyniad a gymerwyd o dan y rheoliad hwn, a rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau o’r fath a rhoi ymateb ysgrifenedig o fewn un diwrnod gwaith i gael sylwadau o’r fath.

(19) Yn lle rheoliad 21 rhodder—

21. Os yw’r rheolaethau swyddogol yn y safle rheoli ar y ffin yn dangos bod y llwyth yn debygol o beri perygl i iechyd anifeiliaid neu bobl, rhaid i’r milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (yn ôl y digwydd) osod y llwyth yng nghadw yn swyddogol ar unwaith a gorchymyn bod y person sy’n gyfrifol am y llwyth yn ei ddinistrio neu’n trefnu triniaeth arbennig yn unol ag Erthygl 71 o Reoliad yr UE ar draul y person hwnnw.

(20) Yn lle rheoliad 22 rhodder—

22.—(1) Os yw’r milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol) yn amau bod cynhyrchion sy’n dod i mewn i’r Deyrnas Unedig o drydedd wlad benodol, rhan benodol o drydedd wlad neu sefydliad penodol mewn trydedd wlad wedi bod yn destun toriadau difrifol o unrhyw ofyniad mewnforio, neu doriadau sy’n rhan o gyfres, neu pan fo’r gwiriadau hynny yn datgelu bod y lefelau gweddillion uchaf yn uwch na’r hyn a ganiateir, mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r deng llwyth nesaf, neu i bwysau net o 300 tunnell, pa un bynnag sydd leiaf, a fewnforir o’r drydedd wlad honno, neu yn ôl y digwydd o ran benodol o drydedd wlad neu sefydliad penodol y mae’r amheuaeth yn ymwneud â hi neu ag ef.

(2) Os oes gan y milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol) reswm i amau bod gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth yn gweithredu mewn modd twyllodrus neu ddichellgar, caiff Gweinidogion Cymru gymhwyso rheolaethau swyddogol dwysach.

(3) Rhaid i’r milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol) gynnal gwiriad ffisegol ar y llwyth yr amheuir ei fod yn methu â chydymffurfio a chymryd mesurau priodol yn unol ag Adran 3 o Bennod 5 o Deitl 2.

(4) Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y llwyth roi blaendal neu warant i’r milfeddyg swyddogol sy’n ddigonol i sicrhau y telir yr holl ffioedd, gan gynnwys cymryd samplau, a phrofion neu ddadansoddiad. 

(21) Yn lle rheoliad 23 rhodder—

23.—(1) Os yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin yn dangos nad yw anifail yn cydymffurfio â’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2) o Reoliad yr UE mewn perthynas â’r anifail hwnnw, neu pan fo’r gwiriadau hynny yn datgelu afreoleidd-dra, rhaid i’r milfeddyg swyddogol, yn y lle cyntaf, osod yr anifail yng nghadw, ei ynysu neu ei roi mewn cwarantîn, fel y bo’n briodol, lle mae rhaid ei gadw, gofalu amdano neu ei drin o dan amodau priodol hyd nes y gwneir penderfyniad swyddogol pellach ynghylch tynged yr anifail.

(2) Oni bai bod angen cymryd camau ar unwaith er mwyn ymateb i risg i iechyd pobl neu anifeiliaid neu les anifeiliaid neu i’r amgylchedd, caiff y milfeddyg swyddogol, ar ôl ymgynghori â’r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr, orchymyn i’r person sy’n gyfrifol am y llwyth—

(a)   darparu cysgod, porthiant a dŵr i’r anifail ac, os bydd angen, rhoi triniaeth iddo;

(b)   os bydd angen hynny, ei roi mewn cwarantîn neu ei ynysu am ba hyd bynnag y bo’n angenrheidiol i sicrhau nad oes unrhyw risg i iechyd pobl neu anifeiliaid; neu

(c)   ailanfon yr anifail yn ddi-oed yn unol ag Erthygl 72 o Reoliad yr UE.

(3) Os yw ailanfon yn amhosibl, yn benodol oherwydd rhesymau lles, caiff y milfeddyg swyddogol orchymyn y mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr i drefnu i’r anifail gael ei gigydda er mwyn osgoi unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint y gellir ei hosgoi neu ei osgoi.

(4) Os ymafaelir mewn anifail o dan reoliad 19 mewn lle ac eithrio safle rheoli ar y ffin, rhaid i’r awdurdod gorfodi orchymyn bod y llwyth i’w gadw neu i’w alw yn ôl, a’i osod yng nghadw yn swyddogol yn ddi-oed, ac mae paragraffau (1) a (2) yn gymwys.

(5) Caiff y milfeddyg swyddogol, mewn achos eithriadol, awdurdodi cymryd camau rhannol o ran dinistrio, ailanfon, triniaeth arbennig, neu unrhyw fesur arall y caniateir ei gymryd mewn cysylltiad â llwyth o anifeiliaid, mewn cysylltiad â rhan o unrhyw lwyth o’r fath, ar yr amod—

(a)   bod y camau hynny yn sicrhau cydymffurfedd â gofynion gwiriadau mewnforio Rheoliad yr UE ac unrhyw Reoliadau Gweithredu a Rheoliadau Dirprwyedig perthnasol a wnaed oddi tano;

(b)   nad yw’r camau a gymerir yn peri risg i iechyd pobl nac anifeiliaid; ac

(c)   nad yw’r camau a gymerir yn tarfu ar weithrediadau rheolaethau swyddogol.

(6) Mae’r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr yn atebol am y costau yr eir iddynt yn y mesurau hyn ond mae ganddo’r hawl i daliad o swm sy’n cyfateb i werth anifail a gigyddir ar ôl didynnu’r costau hyn.

(22) Yn rheoliad 27—

(a)     yn y pennawd, yn lle “cynhyrchion” rhodder “anifeiliaid a chynhyrchion”;

(b)     yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i filfeddyg swyddogol mewn safle rheoli ar y ffin awdurdodi ailfewnforio llwythi o’r categorïau o anifeiliaid a chynhyrchion y cyfeirir atynt ym mhwyntiau (a) a (b) o Erthygl 47(1) o Reoliad yr UE sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd iddo, yn dilyn gwrthodiad gan drydedd wlad i roi mynediad, ar yr amod—

(a)   bod anifeiliaid a chynhyrchion cenhedlol sydd wedi eu hawdurdodi ymlaen llaw gan yr awdurdod cymwys yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid perthnasol;

(b)   bod cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a chynhyrchion cyfansawdd yn cydymffurfio â gofynion iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd mewn perthynas â llwythi o gynhyrchion i’w bwyta gan bobl sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd iddo, yn dilyn gwrthodiad gan drydedd wlad i roi mynediad; ac

(c)   bod sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd anifeiliaid a nodir yn Atodiad XIV i Reoliad y Comisiwn (EU) 142/2011 ar y gofynion ar gyfer mynediad i lwythi o sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd iddo, yn dilyn gwrthodiad gan drydedd wlad i roi mynediad([30]).;

(c)     ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Ym mharagraff (1), ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) 142/2011” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 142/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl ac yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC o ran samplau ac eitemau penodol sydd wedi eu hesemptio rhag gwiriadau milfeddygol ar y ffin o dan y Gyfarwyddeb honno.

(23) Yn lle rheoliad 29 rhodder—

29.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd—

(a)   â sail resymol dros amau bod clefyd, milhaint, ffenomenon neu amgylchiad yn bodoli mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig sy’n golygu bod anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n tarddu o’r wlad gyfan neu o ran o’r wlad o dan sylw yn debygol o beri risg i iechyd pobl neu anifeiliaid, neu

(b)   o’r farn bod achos difrifol o fethu â chydymffurfio â rheolau rheolaethau swyddogol o dan Reoliad yr UE mewn perthynas â mewnforion o’r Undeb Ewropeaidd, neu reolau rheolaethau swyddogol cyfatebol mewn gwledydd ac eithrio Aelod-wladwriaeth,

caiff Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y mesurau arbennig sy’n angenrheidiol er mwyn cyfyngu’r risg i iechyd pobl neu anifeiliaid neu’r risg bod anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n methu â chydymffurfio yn dod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

(2) Mae’r mesurau arbennig y caiff Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd eu gwneud yn ofynnol yn cynnwys—

(a)   atal dros dro fynediad i unrhyw anifail neu gynnyrch sy’n tarddu neu’n cael ei anfon allan o’r wlad gyfan o dan sylw neu ran ohoni;

(b)   gosod amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol—

                       (i)  bod unrhyw anifeiliaid neu gynhyrchion yn dod yn destun triniaeth benodol neu’n dod yn ddarostyngedig i reolaethau penodol cyn iddynt gael eu hanfon allan, neu wrth iddynt gyrraedd;

                      (ii)  bod tystysgrif swyddogol, ardystiad swyddogol, neu unrhyw dystiolaeth arall (ar unrhyw ffurf a bennir) yn dod gydag unrhyw anifeiliaid neu gynhyrchion, sy’n nodi bod unrhyw fewnforyn o’r Undeb Ewropeaidd yn cydymffurfio â rheolau rheolaethau swyddogol sefydledig o dan Reoliad yr UE ac unrhyw Reoliadau Gweithredu neu Reoliadau Dirprwyedig perthnasol a wnaed oddi tano neu reolau cyfatebol mewn gwledydd eraill;

(c)   unrhyw fesurau eraill y mae Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn cyfyngu’r risg.

(3) Rhaid i’r datganiad gael ei gyhoeddi yn y modd y mae Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd (yn ôl y digwydd) yn meddwl ei fod yn briodol a chaniateir ei ddiwygio neu ei ddirymu gan ddatganiad pellach ar unrhyw adeg.

(4) Ni chaiff unrhyw berson fewnforio i’r Deyrnas Unedig unrhyw beth sy’n torri unrhyw fesurau a grybwyllir mewn unrhyw ddatganiad.

(24) Yn rheoliad 32—

(a)     ym mharagraff (2), yn lle “arolygfa ffin, mewn perthynas ag anifeiliaid” rhodder “safle rheoli ar y ffin, mewn perthynas ag anifeiliaid (ac eithrio mewn perthynas ag anifeiliaid dyfrol)”, a

(b)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Y tu allan i safle rheoli ar y ffin, gorfodir rheolaethau swyddogol mewn perthynas ag anifeiliaid dyfrol gan Weinidogion Cymru.;

(c)     ym mharagraff (4), yn lle “Erthyglau 135 i 137” rhodder “Erthygl 134”;

(d)     yn lle paragraff (6) rhodder—

(6) Pan fo swyddog tollau, wrth arfer swyddogaeth statudol mewn unrhyw le sydd o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau, yn darganfod unrhyw anifail neu gynnyrch yr amheuir ei fod yn methu â chydymffurfio, rhaid i’r swyddog hwnnw ei gadw a hysbysu swyddog awdurdodedig o’r awdurdod gorfodi perthnasol am y cadwad hwnnw.

(25) Yn lle rheoliad 33 rhodder—

33.—(1) Caiff swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru neu asiantaeth orfodi, ar unrhyw adeg resymol yn ystod oriau gweithio arferol a heb roi hysbysiad ymlaen llaw, fynd i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat) os yw’r swyddog yn credu ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at y diben o orfodi’r Rheoliadau hyn.

(2) Rhaid i swyddog awdurdodedig ddangos dogfen awdurdodi sydd wedi ei dilysu’n briodol, os gofynnir iddo wneud hynny.

(3) Caiff ynad heddwch lofnodi gwarant i ganiatáu i swyddog gorfodi fynd i unrhyw fangre, gan gynnwys tŷ annedd, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)   bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno at ddiben gorfodi’r Rheoliadau hyn; a

(b)   y bodlonir un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (4).

(4) Yr amodau yw—

(a)   bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

(b)   y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre;

(c)   bod angen mynd i’r fangre ar fyrder;

(ch) bod y fangre heb ei meddiannu neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(5) Mae gwarant yn ddilys am 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y mae’r ynad heddwch yn ei llofnodi.

(6) Rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu y mae’r meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.

(7) Caiff swyddog awdurdodedig—

(a)   mynd ag unrhyw bersonau eraill (hyd at uchafswm o dri), y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol, gydag ef;

(b)   dod ag unrhyw gyfarpar i’r fangre y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn angenrheidiol.

(26) Yn rheoliad 34, ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(f)  ei gwneud yn ofynnol cigydda unrhyw anifail a fewnforir sy’n methu â chydymffurfio â gofynion mewnforio neu les anifeiliaid yn y Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE ac unrhyw Reoliadau Gweithredu a Rheoliadau Dirprwyedig a wnaed oddi tano, neu y mae gan Weinidogion Cymru amheuaeth ei fod yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu bobl;

(ff)  ei gwneud yn ofynnol rhoi mewn cwatantîn unrhyw anifail a fewnforir y mae gan Weinidogion Cymru amheuaeth ei fod yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu bobl.

(27) Yn lle rheoliad 35, a phennawd y rheoliad hwnnw, rhodder—

Mewnforio anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n peri risg i iechyd anifeiliaid neu’r cyhoedd

35.—(1) Os oes gan Weinidogion Cymru amheuaeth bod anifeiliaid neu gynhyrchion a fewnforir yn peri risg difrifol i iechyd pobl neu anifeiliaid neu les anifeiliaid, neu, mewn achos lle ceir amheuaeth o fethu â chydymffurfio, os yw’r anifeiliaid neu’r cynhyrchion yn dod o ranbarth sydd wedi ei halogi â chlefyd episöotig, caiff swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol—

(a)   cynnal ymchwiliad er mwyn cadarnhau’r amheuaeth honno neu gael gwared arni;

(b)   cynnal ymchwiliad ynghylch hyd a lled unrhyw achos o fethu â chydymffurfio a amheuir ac er mwyn canfod cyfrifoldebau’r gweithredwr mewnforio;

(c)   rhoi rheolaethau swyddogol dwysach ar lwythi o anifeiliaid neu gynhyrchion o ranbarth penodol hyd nes na fydd y swyddog yn ystyried bod y mewnforion hynny yn peri risg o’r fath i iechyd mwyach;

(ch) gosod unrhyw un neu ragor o’r anifeiliaid neu’r cynhyrchion yng nghadw yn swyddogol;

(d)   cymryd mesurau priodol er mwyn sicrhau bod y person sy’n gyfrifol am yr anifeiliaid neu’r cynhyrchion yn unioni’r methiant i gydymffurfio ac yn atal achosion eraill o fethu â chydymffurfio o’r fath.

(2) Mewn achos sydd o fewn paragraff (1)(a), rhaid i’r mewnforiwr gynorthwyo’r swyddog i ganfod rhanbarth y tarddiad.

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod anifeiliaid neu gynhyrchion a fewnforir yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu’r cyhoedd, caiff swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru, ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig, gymryd unrhyw gamau rhesymol i sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw reolau a nodir yn unol ag Erthygl 1(2) o Reoliad yr UE, gan gynnwys—

(a)   cymryd samplau ar gyfer profi a gorchymyn neu gynnal triniaethau milfeddygol ar anifeiliaid;

(b)   gorchymyn bod anifeiliaid yn cael eu dadlwytho a’u trosglwyddo drwy gyfrwng cludo arall i ddaliad penodedig am gyfnod cwarantîn penodedig (pa un a yw hynny’n golygu gohirio cigydda’r anifeiliaid ai peidio);

(c)   cigydda neu ladd yr anifeiliaid, ar yr amod mai dyma’r mesur mwyaf priodol er mwyn diogelu iechyd pobl yn ogystal ag o ran iechyd a lles anifeiliaid;

(ch) gwahardd rhoi’r anifail neu’r cynnyrch ar y farchnad, ei symud neu ei allforio, neu gyfyngu ar hynny, neu ei gwneud yn ofynnol ei ddychwelyd i’r wlad y’i hanfonwyd allan ohoni;

(d)   gorchymyn y mewnforiwr i gynnal gwiriadau a rheolaethau systematig yn amlach ac yn fwy trylwyr cyn mewnforio anifeiliaid neu nwyddau pellach o’r un rhanbarth;

(dd) gorchymyn ynysu neu gau, am gyfnod priodol, fusnes cyfan neu ran o fusnes (gan gynnwys unrhyw werthiannau cynhyrchion cysylltiedig ar y rhyngrwyd ac ar-lein a allai beri risg i iechyd anifeiliaid neu bobl) y mae mewnforio anifail neu gynnyrch sy’n peri risg i iechyd anifeiliaid neu bobl yn effeithio arno;

(f)   galw yn ôl, tynnu yn ôl, symud neu ddinistrio’r cynhyrchion;

(ff)  rhoi triniaeth i gynhyrchion sydd i’w bwyta gan bobl, addasu labeli neu ddarparu gwybodaeth gywirol i ddefnyddwyr;

(g)   atal dros dro neu dynnu yn ôl gofrestriad neu gymeradwyaeth i sefydliad, safle, daliad neu gyfrwng cludo perthnasol yr effeithir arno, neu awdurdodiad i gludwr;

(ng) defnyddio’r cynhyrchion at ddibenion ac eithrio’r rhai y’u bwriadwyd ar eu cyfer yn wreiddiol.

(4) Rhaid i swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru ddarparu’r canlynol i weithredwr busnes yr effeithir arno, neu ei gynrychiolydd—

(a)   hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad ynghylch y cam neu’r mesur sydd i’w gymryd yn unol â’r rheoliad hwn, ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw; a

(b)   gwybodaeth am unrhyw hawl i gael adolygiad o’r penderfyniad hwnnw yn unol â rheoliad 35A.

(5) Mae’r holl wariant yr aed iddo o ganlyniad i gamau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan o dan y rheoliad hwn i’w dalu gan y gweithredwr cyfrifol.

(6) Yn achos dyroddi tystysgrifau swyddogol anwir neu gamarweiniol yng Nghymru, neu pan geir tystiolaeth o gamddefnyddio tystysgrifau swyddogol, caiff swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru gymryd camau priodol, gan gynnwys—

(a)   atal dros dro y swyddog ardystio rhag ardystio unrhyw dystysgrifau sy’n gysylltiedig ag unrhyw fasnach berthnasol;

(b)   tynnu yn ôl awdurdodiad person i lofnodi tystysgrifau swyddogol;

(c)   unrhyw fesur arall y mae’r swyddog yn credu ei fod yn angenrheidiol er mwyn atal unrhyw achos o fethu â chydymffurfio neu gamddefnyddio rhag digwydd eto.

(28) Ar ôl rheoliad 35 mewnosoder—

Adolygiad o benderfyniadau gan berson penodedig

35A.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad a wneir o dan y Rheoliadau hyn, ac eithrio unrhyw benderfyniad y cyfeirir ato yn rheoliad 20 neu 23, ofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru (“y person penodedig”).

(2) Caiff y person a dramgwyddir gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig o fewn 21 o ddiwrnodau i benodi’r person penodedig.

(3) Rhaid i’r person penodedig ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir pan fo’n adolygu’r penderfyniad a herir a rhaid iddo roi adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru 21 o ddiwrnodau ar ôl i’r cyfnod ym mharagraff (2) ddod i ben gydag argymhellion ar gyfer dull gweithredu sy’n deillio o’r adolygiad.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried adroddiad y person penodedig a hysbysu’r perchennog yn brydlon am ganlyniad yr adolygiad a darparu copi o adroddiad y person penodedig.

(5) Nid yw adolygiad, neu’r hawl i gael adolygiad, yn effeithio ar y rhwymedigaeth sydd ar yr awdurdod dynodedig i gymryd camau prydlon i ddileu neu gyfyngu’r risg i iechyd pobl neu anifeiliaid.

(29) Yn rheoliad 36, ar ôl y geiriau “Rheoliadau hyn”, ym mhob lle y maent yn digwydd, mewnosoder “neu Reoliad yr UE”.

(30) Yn lle rheoliad 38 rhodder—

38. Rhaid i Weinidogion Cymru godi ffi resymol mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd rheolaethau swyddogol yn unol â’r darpariaethau codi ffi a gynhwysir ym Mhennod 6, Teitl 2 o Reoliad yr UE, ac mae’r ffi honno yn daladwy gan y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth neu ei gynrychiolydd.

(31) Yn rheoliad 39, yn y cofnod cyntaf yn y tabl—

(a)     yn lle “rheoliad 5(1)” rhodder “rheoliad 5(1) ac (1A)”, a

(b)     yn yr ail golofn, yn lle’r disgrifiad o’r drosedd rhodder—

Symudiadau heb fod dogfennau cywir yn dod gyda hwy.

(32) Yn lle rheoliad 42 rhodder—

42. Mae person sy’n euog o unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.

(33) Yn Atodlen 1—

(a)     hepgorer y cofnodion yn y ddwy golofn sy’n ymwneud ag—

                            (i)    Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a’u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid ac sy’n diddymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC a 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC,

                          (ii)    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004 sy’n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol mewn arolygfeydd ar ffin y Gymuned ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd,

                        (iii)    Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl,

                        (iv)    Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirio cydymffurfedd â’r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid, a

                          (v)    Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Gorffennaf 2009 ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio;

(b)     ar ôl yr eitem ‘Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1069/2009’, yn y golofn gyntaf mewnosoder—

Rheoliad (EU) 2016/1012 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 8 Mehefin 2016 ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio a masnachu anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol, a dod â hwy i’r Undeb

Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion([31]) a Rheoliadau Gweithredu a Rheoliadau Dirprwyedig a wnaed oddi tano;

(c)     yn yr ail golofn, mewn perthynas â’r cofnod ar gyfer “Rheoliad (EU) 2016/1012” a fewnosodir gan is-baragraff (b) mewnosoder—

“Anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol”;

(d)     yn yr ail golofn, mewn perthynas â’r cofnod ar gyfer “Rheoliad (EU) 2017/625” a fewnosodir gan is-baragraff (b) mewnosoder—

“Rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill”.

(34) Yn Atodlen 2—

(a)     ym mhennawd Rhan 1, yn lle “rhwng” rhodder “gydag”;

(b)     ym mharagraff 2—

                            (i)    hepgorer is-baragraff (1);

                          (ii)    yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Ni chaiff unrhyw berson gludo gwartheg, moch, defaid na geifr i Aelod-wladwriaeth oni fo Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi hynny yn unol ag Erthygl 11 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig([32]).;

(c)     ym mharagraff 3—

                            (i)    yn lle “rhwng Aelod-wladwriaethau” rhodder “i Aelod-wladwriaethau neu ohonynt”;

                          (ii)    ar y diwedd mewnosoder “ac maent wedi eu hesemptio rhag y gofyniad yn rheoliad 7(2) i ddarparu rhybudd o un diwrnod gwaith i Weinidogion Cymru cyn y bwriedir i’r llwyth gyrraedd”;

(d)     ym mharagraffau 4 a 5(4), yn lle “rhwng” rhodder “gydag”;

(e)     ym mharagraff 7, yn lle “arall neu ddod â hwy i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “neu ddod â hwy i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth”;

(f)      ym mharagraff 9(1), ar ôl “awdurdod cymwys ar gyfer” mewnosoder “mewnforio adar penodol ac amodau cwarantîn at ddibenion”;

(g)     yn lle paragraff 10 rhodder—

10. Pan fo ceffyl yn cael ei fewnforio o drydedd wlad o dan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/659 ar yr amodau mynediad i’r Undeb ar gyfer equidae byw a semen, ofa ac embryonau equidae([33]) rhaid i’r milfeddyg swyddogol ddychwelyd y dystysgrif iechyd i’r person sy’n mynd gyda’r ceffyl, a gwneud cofnod o’r dystysgrif;

(h)     yn lle paragraff 11, a phennawd y paragraff hwnnw, rhodder—

Cyflenwi â llong

11.—(1) Rhaid i dystysgrif iechyd perthnasol sy’n ymwneud â’r cynnyrch hwnnw ddod gyda chynnyrch nad yw’n cydymffurfio â gofynion mewnforio ac sy’n cael ei anfon o safle rheoli ar y ffin i long, a rhaid i feistr y llestr gadarnhau y traddodwyd y cynnyrch drwy lofnodi tystysgrif y mae’n rhaid iddi ddod gyda’r llwyth i’w gyrchfan.

(2) O fewn 15 niwrnod i gwblhau traddodi cynhyrchion ar y llestr, rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y traddodiad, neu gynrychiolydd meistr y llestr, anfon y dystysgrif swyddogol wedi ei llofnodi gan feistr y llestr (neu ei hanfon drwy ddulliau a systemau electronig) at awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin lle cafwyd mynediad neu’r warws tollau a gymeradwywyd.;

(i)       hepgorer paragraff 12.

(35) Yn Atodlen 3—

(a)     yn lle paragraff 2 (Achos 1: Mewnforion personol a llwythi bychain) rhodder—

2.  Y cynhyrchion y cyfeirir atynt yn Erthygl 7 ac Erthygl 10 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 48(d) ac (e) o Reoliad yr UE([34]).;

(b)     yn lle paragraff 4 (Achos 3: Samplau masnach a samplau ar gyfer astudiaeth benodol neu ddadansoddiad), a phennawd y paragraff hwnnw, rhodder—

Achos 3: Samplau ymchwil a samplau diagnostig

4.—(1) Mae samplau ymchwil a samplau diagnostig fel y’u diffinnir ym mhwynt (38) o Atodiad 1 i Reoliad (EU) Rhif 142/2011([35]) wedi eu hesemptio rhag gwiriadau milfeddygol yn y safle rheoli ar y ffin, ar yr amod eu bod wedi eu hawdurdodi ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru a bod y llwyth yn cael ei anfon yn uniongyrchol o’r man mynediad i’r defnyddiwr awdurdodedig.

(2) Mewn perthynas â samplau o’r fath sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig ac y bwriedir iddynt fynd i Aelod-wladwriaeth—

(a)   rhaid i’r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr gyflwyno samplau ymchwil a samplau diagnostig mewn safle rheoli ar y ffin lle ceir mynediad; a

(b)   rhaid i awdurdod cymwys y safle rheoli ar y ffin hysbysu awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth sy’n gyrchfan bod y samplau wedi cyrraedd.;

(c)     ym mhennawd paragraff 5, hepgorer “arall”;

(d)     ym mharagraff 5, hepgorer “arall” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

(e)     ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

Achos 7: Anifeiliaid di-asgwrn-cefn a fwriedir ar gyfer dibenion gwyddonol

8.—(1) Mae anifeiliaid di-asgwrn-cefn a fwriedir ar gyfer dibenion gwyddonol megis ymchwil, gweithgareddau addysgol neu ymchwil sy’n gysylltiedig â gweithgareddau datblygu cynnyrch wedi eu hesemptio rhag rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, ac eithrio rheolaethau a gynhelir yn unol ag Erthygl 15(2) o Reoliad (EU) Rhif 1143/2014([36]), ar yr amod—

(a)   eu bod yn cydymffurfio â’r holl ofynion iechyd anifeiliaid angenrheidiol;

(b)   eu bod wedi eu hawdurdodi gan Weinidogion Cymru;

(c)   pan fo’r gweithgareddau sy’n ymwneud â’r dibenion gwyddonol wedi eu cyflawni, rhaid iddynt hwy ac unrhyw gynhyrchion sy’n deillio ohonynt, ac eithrio unrhyw ddarnau a ddefnyddiwyd at y dibenion gwyddonol, gael eu gwaredu neu eu hailanfon i’r drydedd wlad y maent yn tarddu ohoni.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fêl-wenyn (Apis mellifera), cacwn (Bombus spp), molysgiaid sy’n perthyn i’r ffylwm Mollusca na chramenogion sy’n perthyn i’r is-ffylwm Crustacea.

Diwygio Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013

24.(1)(1) Mae Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013([37]) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)     yn rheoliad 2(2)—

                            (i)    hepgorer y diffiniad o “Regulation (EC) No 882/2004”, a

                          (ii)    ar ôl y diffiniad o “Regulation (EC) No 1831/2003” mewnosoder—

“Regulation (EU) 2017/625” means Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products([38]);;

(b)     yn rheoliad 45(3)(c), yn lle “Regulation (EC) No 882/2004” rhodder “Regulation (EU) 2017/625”;

(c)     yn lle rheoliad 46(3)(f) rhodder—

(f)  “Regulation (EU) 2017/625” of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products;;

(d)     yn Atodlen 5—

                            (i)    yn y Cynnwys, yn eitem 4, yn lle “Regulation (EC) No 882/2004” rhodder “Regulation (EU) 2017/625”, a

                          (ii)    ym mharagraff 4 a’r pennawd i’r paragraff hwnnw, yn lle “Regulation (EC) No 882/2004” rhodder “Regulation (EU) 2017/625”.

Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

25. Yn rheoliad 4(1)(c)(iii) o’r Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014([39]), yn lle “Erthygl 22(1)” rhodder “Erthygl 138 (camau gweithredu os cadarnheir achos o fethu â chydymffurfio) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion([40])”.

Diwygio Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018

26. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018([41]), yn y diffiniad o “carcas buchol”, yn lle’r geiriau “y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5(2)” hyd at y diwedd rhodder “fel y’i diffinnir yn Erthygl 3(51) o Reoliad EU 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion([42])”.

Diwygio Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

27. Yn Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018([43]), hepgorer rheoliad 11.   

Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018

28.(1)(1) Mae Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018([44]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1)—

(a)     yn y diffiniad o “safle torri”, yn lle “o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004” rhodder “o dan Erthygl 148(3) o Reoliad (EU) 2017/625”,

(b)     yn y diffiniad o “lladd-dy” yn lle “o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004” rhodder “o dan Erthygl 148(3) o Reoliad (EU) 2017/625”,

(c)     hepgorer y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 882/2004”, a

(d)     ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009” mewnosoder—

ystyr “Rheoliad (EU) 2017/625” (“Regulation (EU) 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion([45]);.

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

29. Yn Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019([46])—

(a)     hepgorer rheoliad 2(1), a

(b)     hepgorer rheoliad 3(7)(i), (20) a (22).

Diwygio Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

30. Yn Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019([47]), hepgorer rheoliad 3.

RHAN 6

Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â ffioedd iechyd planhigion

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Coedwigaeth) (Prydain Fawr) 2004

31. Yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Coedwigaeth) (Prydain Fawr) 2004([48])—

(a)     yn erthygl 3(2)(a), yn lle “of the services listed in the first column of Schedule 3” rhodder “services”;

(b)     hepgorer erthygl 4;

(c)     hepgorer Atodlen 3.

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006

32. Yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006([49])—

(a)     yn erthygl 3(2)(a), yn lle “unrhyw rai o’r gwasanaethau a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 3” rhodder “unrhyw wasanaethau”;

(b)      hepgorer erthygl 5;

(c)     hepgorer Atodlen 3.

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006

33. Yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006([50])—

(a)     hepgorer erthygl 7;

(b)     hepgorer Atodlen 1.

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

34.(1)(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018([51]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle rheoliad 2 rhodder—

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion([52]).

(2) Mae i eiriau ac ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu yn Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion([53]) yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn yr offeryn UE o dan sylw.

(3) Yn rheoliad 3—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “a restrir yn Atodlen 5 i Orchymyn 2018” rhodder “a ddisgrifir yn rhestrau’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol sy’n gymwys at ddibenion Erthyglau 72(1) a 74(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE”;

(b)     ym mharagraff (3)—

                            (i)    yn lle is-baragraffau (a) ac (aa) rhodder—

(a) ystyr “pla planhigion a reolir” yw—

                       (i)  pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn rhestrau’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol sy’n gymwys at ddibenion Erthyglau 5(2), 32(3) a 37(2) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

                      (ii)  unrhyw bla planhigion arall o ddisgrifiad a bennir mewn penderfyniad a fabwysiedir cyn 14 Rhagfyr 2019 gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 16(3) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i ddiogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu o fewn y Gymuned([54]);

(aa) mae “Ewrop” yn cynnwys Belarus, yr Ynysoedd Dedwydd, Georgia, Kazakhstan (ac eithrio’r ardal i’r dwyrain o afon Ural), Rwsia (ac eithrio rhanbarthau Tyumen, Chelyabinsk, Irkutsk, Kemerovo, Kurgan, Novossibirsk, Omsk, Sverdlovsk, Tomsk, Chita, Kamchatka, Magadan, Amur a Skhalin, tiriogaethau Krasnoyarsk, Altay, Khabarovsk a Primarie, a gweriniaethau Sakha, Tuva a Buryatia), Ukrain a Thwrci (ac eithrio’r ardal i’r dwyrain o Gulfor Bosphorus o’r enw Anatolia);;

                          (ii)    ar ôl is-baragraff (ab) mewnosoder—

(aba) ystyr “y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” yw’r act weithredu a fabwysiadwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthyglau 5(2), 32(2), 37(2), 37(4), 40(2), 41(2), 53(2), 54(2), 72(1), 73, 74(2), 79(2) a 80(2) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;;

                        (iii)    hepgorer is-baragraff (c).

(4) Yn rheoliad 4—

(a)     ym mharagraff (2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “a gynhelir” mewnosoder “gan, neu ar ran, Gweinidogion Cymru”;

(b)     ym mharagraff (6)(a), hepgorer “a roddir o dan erthygl 29 o Orchymyn 2018”.

(5) Yn rheoliad 5—

(a)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “a wneir i Weinidogion Cymru”;

                          (ii)    yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “a roddir gan Weinidogion Cymru”;

(b)     ym mharagraff (5), yn lle “trwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o Orchymyn 2018” rhodder “awdurdodiad at ddibenion unrhyw randdirymiad a ddisgrifir yn Erthygl 8(1) neu 48(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE”.

(6) Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—

Gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd

5A.—(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r tabl gan berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am dystysgrif neu am wasanaeth cyn-allforio.

(2) Swm y ffi mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 4A yw—

(a)   yn achos allforiwr bach nad yw, ar ddyddiad y cais, ond wedi bod yn atebol yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais i dalu ffioedd o £750 neu lai mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r tabl, y swm a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;

(b)   mewn unrhyw achos arall, y swm a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.

(3) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofnau 2 a 3 o’r tabl yn Atodlen 4A mewn cysylltiad ag arolygiad o lwyth neu archwiliad o arolygiad grawn yn daladwy ar gyfer pob 15 munud (neu ran ohono) a dreuliwyd yn cynnal yr arolygiad neu’r archwiliad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig, yn ddarostyngedig i isafswm y ffioedd a bennir yn y cofnodion hynny.

(4) Pan fo person yn cyflwyno cais am dystysgrif neu wasanaeth cyn-allforio neu’n cyflwyno archiad i ddiwygio tystysgrif ar bapur (ac nid ar-lein), mae’r ffi ychwanegol a ganlyn yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais neu’r archiad—

(a)   yn achos allforiwr bach nad yw, ar ddyddiad y cais neu’r archiad, ond wedi bod yn atebol yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais neu’r archiad i dalu ffioedd o £750 neu lai mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 4A, £7.88;

(b)   mewn unrhyw achos arall, £15.76.

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “allforiwr bach” (“small exporter”) yw person—

(a)   yn y flwyddyn ariannol y gwneir y cais neu’r archiad—

                       (i)  nad yw’n berson trethadwy at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994([55]); neu

                      (ii)  nad yw’n cyflenwi’n drethadwy blanhigion, cynhyrchion planhigion, hadau, pridd neu beiriannau amaethyddol at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994; neu

(b)   yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn pan wneir y cais neu’r archiad, sydd wedi allforio nwyddau a thystysgrif gyda hwy yr oedd cyfanswm eu gwerth yn llai na £5,000;

ystyr “gwasanaeth cyn-allforio” (“pre-export service”) yw unrhyw arolygiad neu archwiliad iechyd planhigion, gan gynnwys cymryd samplau, y mae’n ofynnol ei gynnal mewn perthynas â phlanhigyn, cynnyrch planhigyn neu wrthrych arall sydd i’w allforio i drydedd wlad er mwyn bodloni gofynion ffytoiechydol y drydedd wlad, ac eithrio unrhyw arolygiad neu archwiliad sy’n ofynnol er mwyn dyroddi tystysgrif;

ystyr “tystysgrif” (“certificate”) yw naill ai tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ail-allforio.”

(7) Yn rheoliad 6(1), yn lle “arolygydd” rhodder “arolygydd iechyd planhigion swyddogol”.

(8) Hepgorer rheoliad 7.

(9) Yn rheoliad 11—

(a)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “fasnachwr planhigion cofrestredig” rhodder “weithredwr proffesiynol cofrestredig”;

                          (ii)    yn is-baragraff (b), yn lle “masnachwr” rhodder “gweithredwr”;

(b)     hepgorer paragraff (2).

(10) Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder—

                               ATODLEN 4A Rheoliad 5A

Ffioedd gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio

 

(1)

Gwasanaeth

(2)

Ffi – allforiwr bach (£)

(3)

Ffi – allforiwr arall (£)

Arolygiad o lwyth

31.90 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 63.80

63.80 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 127.60

Archwiliad o arolygiad grawn

13.20 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 26.40

26.40 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 52.80

Archwiliad mewn labordy (gan gynnwys profion labordy)

16.78 am bob sampl a brofir

33.56 am bob sampl a brofir

Dyroddi tystysgrif

12.76 am bob tystysgrif

25.52 am bob tystysgrif

Diwygio tystysgrif ar archiad yr allforiwr

7.88 am bob tystysgrif

15.76 am bob tystysgrif.

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019

35.(1)(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019([56]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle rheoliad 2 rhodder—

“Dehongli

2.—(1)  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdodiad DPP” (“WPM authorisation”) yw awdurdodiad a ddisgrifir yn Erthygl 98(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

ystyr “awdurdodiad pasbort planhigion” (“plant passport authority”) yw awdurdodiad a ddisgrifir yn Erthygl 89(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005([57]);

ystyr “gwaith adfer” (“remedial work”) yw unrhyw gamau a gymerir gan berson at ddibenion cydymffurfio â hysbysiad adfer, neu gan arolygydd o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn;

ystyr “hysbysiad adfer” (“remedial notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 31(1) neu (4) o’r Gorchymyn;

ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth—

(a)   a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad, a

(b)   sy’n, neu sy’n cynnwys—

                       (i)  rhisgl wedi ei wahanu o fath a ddisgrifir yn rhestrau’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol sy’n gymwys at ddibenion Erthyglau 72(1) a 74(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, neu mewn penderfyniad a fabwysiedir cyn 14 Rhagfyr 2019 gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 16(3) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu yn y Gymuned([58]);

                      (ii)  pren o fath a ddisgrifir yn y rhestrau neu mewn penderfyniad a grybwyllir yn is-baragraff (i) ac eithrio deunydd pecynnu pren a ddefnyddir mewn gwirionedd wrth gludo gwrthrychau o bob math;

mae i “man arolygu a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved place of inspection” yn erthygl 3 o’r Gorchymyn;

ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“the EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau gwarchod yn erbyn plâu planhigion([59]);

ystyr “trwydded” (“licence”) yw awdurdodiad at ddibenion unrhyw randdirymiad a ddisgrifir yn Erthygl 8(1) neu 48(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE.

(2) Mae i eiriau ac ymadroddion nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu yn Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion([60]) yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn yr offeryn UE o dan sylw.”

(3) Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(5A) Y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais i Weinidogion Cymru am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ail-allforio yw’r ffi a bennir yn Atodlen 4A.

(5B) Y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais i Weinidogion Cymru am awdurdodiad DPP yw’r ffi a bennir yn Atodlen 4B.

(4) Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder—

                             ATODLEN 4A Rheoliad 3(5A)

Ffioedd mewn cysylltiad â chais am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ail-allforio

 

(1)

Gwasanaeth

(2)

Ffi

Ystyried cais, gan gynnwys dyroddi tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ail-allforio pan fo hynny’n briodol

£15.00

Archwilio neu brofi planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa):

 

(a)     hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf;

£27.00

(b)     wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw

£7.50.

                              ATODLEN 4B Rheoliad 3(5B)

Ffioedd mewn cysylltiad â chais am awdurdodiad DPP

 

(1)

Math o gais

(2)

Ffi

Cais am awdurdodiad DPP, ac eithrio adnewyddu awdurdodiad DPP presennol

£400.00

Cais i adnewyddu awdurdodiad DPP presennol

£120.00

Cais am ailasesiad at ddibenion awdurdodiad DPP

£120.00.

 

RHAN 7

Dirymu

36. Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007([61]) wedi eu dirymu.

 

 

 

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gweldig, un o Weinidogion Cymru

21 Ionawr 2020

 

 

 



([1])           1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a’i diddymu’n rhagolygol gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) gan gael effaith o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno). 

([2])           O.S. 2010/2690.

([3])           O.S. 2008/1792.

([4])           1973 p. 51; diwygiwyd adran 56(1) gan O.S. 2011/1043, a’i diwygio’n rhagolygol gan baragraff 17 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 o ddyddiad ac amser sydd i’w bennu.

([5])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 198, 25.7.2019, t. 241).

([6])           OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.3.2019, t. 4).

([7])           O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/626 (Cy. 90), O.S. 2013/479 (Cy. 55), O.S. 2013/2007 (Cy. 298) ac O.S. 2014/2714 (Cy. 271) ac a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/434 (Cy. 102) ac XXXX (Cy. XX).

([8])           OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 29, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 156, 13.6.2019, t. 1.

([9])           O.S. 2014/951 (Cy. 92), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([10])         O.S. 2006/179 (Cy. 30), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([11])         OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

([12])         O.S. 2006/180 (Cy. 31), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([13])         OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1.

([14])         O.S. 2006/3309 (Cy. 299), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([15])         OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

([16])         O.S. 2006/3310 (Cy. 300), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([17])         OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

([18])         O.S. 2007/1047 (Cy. 105); ceir diwygiad rhagolygol perthnasol yn O.S. 2019/684 (Cy. 131). 

([19])         O.S. 2007/3070 (Cy. 264); yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2010/2713 (Cy. 229).

([20])         OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

([21])         O.S. 2011/2379 (Cy. 252), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/3158, 2018/1152, 2019/463, 2019/597, 2019/737, 2019/799 a 2019/526.

([22])         OJ Rhif L 76, 16.3.2007, t. 12.

([23])         OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

([24])         OJ Rhif L 171, 29.6.2016, t. 66.

([25])         OJ Rhif L 84, 31.3.2016, t. 1.

([26])         OJ Rhif L 17, 28.6.2013, t. 1.

([27])         OJ Rhif L 261, 14.10.2019, t. 37.

([28])         OJ Rhif L 250, 30.7.2019, t. 6.

([29])         OJ Rhif L 3, 5.1.2005, t. 1.

([30])         OJ Rhif L 54, 26.2.2011, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan OJ L 185, 11.7.2019, t. 26.

([31])         OJ Rhif L 95, 7.04.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

([32])         OJ Rhif L 3, 5.1.2005, t. 1.

([33])         OJ Rhif L 110, 30.4.2018, t. 1.

([34])         Mabwysiadwyd Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn ym Mrwsel ar 10.10.2019 o dan y cyfeirnod C(2019) 7007 final, ond nid yw’r offeryn wedi ei gyhoeddi yn y Cyfnodolyn Swyddogol.

([35])         OJ Rhif L 54, 26.2.2011, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ L 185, 11.7.2019, t. 26.

([36])         OJ Rhif L 317, 4.11.2014, t. 35.

([37])         O.S. 2013/2033, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([38])         OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

([39])         O.S. 2014/951 (Cy. 92), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([40])         OJ Rhif L 95, 7. 4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

([41])         O.S. 2018/1215 (Cy. 248), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([42])         OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

([43])         O.S. 2018/806 (Cy. 162).

([44])         O.S. 2018/968 (Cy. 248), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/942 ac O.S. 2018/1120.

([45])         OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.5.2019, t. 4).

([46])         O.S. 2019/597 (Cy. 126).

([47])         O.S. 2019/434 (Cy. 102).

([48])         O.S. 2004/1684, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755, 2019/734.

([49])         O.S. 2006/1701 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/1658 (Cy. 156), O.S. 2014/1759 (Cy. 174), O.S. 2016/1084 (Cy. 259) ac O.S. 2018/772 (Cy. 156).

([50])         O.S. 2006/2695, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755, 2019/734.

([51])         O.S. 2018/1179 (Cy. 238) a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1378 (Cy. 244).

([52])         OJ L 317, 23.11.2016, t. 4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).

([53])         OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, a ddiwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.3.2019, t. 4).

([54])         OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2019/523 (OJ Rhif L 86, 28.3.2019, t. 41).

([55])         1994 p. 23.

([56])         O.S. 2019/497 (Cy. 114); ceir diwygiad rhagolygol perthnasol yn O.S. 2019/735 (Cy. 138).

([57])         O.S. 2005/2517; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2013/755 (Cy. 90), O.S. 2014/2420, O.S. 2019/734.

([58])         OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2019/523 (OJ Rhif L 86, 28.3.2019, t. 41).

([59])         OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).

([60])         OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).

([61])         O.S. 2007/196 (Cy. 15).